The Bible Software
Llyfr Daniel · Beibl (1620)

Llyfr Daniel 12

1Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y twysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr.

2A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.

3A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd.

4Tithau, Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: ac a a gynweiriant, a gwybodaeth a amlheir.

5Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, un o’r tu yma ar fin yr afon, ac un arall o’r tu arall ar fin yr afon.

6Ac un a ddywedodd wrth yr wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, Pa hyd fydd hyd diwedd y rhyfeddodau hyn?

7Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll.

8Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn?

9Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd.

10Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant.

11Ac o’r amser y tynner ymaith y gwastadol: aberth, ac y gosoder i fyny y ffieidd-dra anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau.

12Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau.

13Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.

← Llyfr Daniel 11Read In The App, Free →Hosea 1 →

Study Llyfr Daniel 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112