Llyfr Daniel 3:24
Yna y synnodd ar Nebuchodonosor, a cy cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y ffwrn yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Daniel 3:2Yna Nebuchodonosor y brenin a anfonodd i gasglu ynghyd y tywysogion, dugiaid, a phendefigioin, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, i ddyfod wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.
Daniel 3:17Wele, y mae ein DUW ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli yn abl i’n gwared ni allan o’r ffwrn danllyd boeth, ac efe a’n gwared ni o’th law di, O frenin.
Daniel 4:27Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.
Daniel 5:18O frenin, y DUW goruchaf a roddes i Nebuchbdonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.
Daniel 6:22Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o’th flaen dithau, frenin.
Acts 9:6Yntau gan grynu, ac â braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A’r Arglwydd a ddy¬wedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.