The Bible Software
Llyfr Daniel · Beibl (1620)

Llyfr Daniel 3

1Nebuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur, ei huchder oedd yn drigain cufydd, ei lled yn chwe chufydd; ac efe a’i gosododd hi i fyny yng ngwastadedd Dura, o fewn talaith Babilon.

2Yna Nebuchodonosor y brenin a anfonodd i gasglu ynghyd y tywysogion, dugiaid, a phendefigioin, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, i ddyfod wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.

3Yna y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, a ymgasglasant ynghyd wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin: a hwy a safasant o flaen y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor.

4A chyhoeddwr a lefodd yn groch, Wrthych chwi, bobloedd, genhedloedd, a ieithoedd, y dywedir.

5Pan glywoch sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, y syrthiwch ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nebuchodonosor y brenin.

6A’r hwn ni syrthio ac ni addolo, yr awr honno a fwrir i ganol ffwrn o dân poeth.

7Am hynny yr amser hwnnw, pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a phob rhyw gerdd, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, a syrthiasant, ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.

8O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gŵr o Caldea, ac a gyhuddasant yr Iddewon.

9Adroddasant a dywedasant wrth Nebuchodonosor y brenin, Bydd fyw, frenin, yn dragywydd.

10Ti, frenin, a osodaist orchymyn, ar i bwy bynnag a glywai sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a’r symffon, a phob rhyw gerdd, syrthio ac ymgryrnu i’r ddelw aur:

11A phwy byanag ni syrthiai ac nid ymgrymai, y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth.

12Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego; y gwŷr hyn, O frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti; dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant i’r ddelw aur a gyfodaist.

13Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach, Mesach, ac Abednego. Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin.

14Adroddodd Nebuchodonosor a dywedodd wrthynt, Ai gwir hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego? oni addolwch chwi fy nuwiau i, ac oni ymgrymwch i’r ddelw aur a gyfodais i?

15Yr awr hon wele, os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, i syrthio ac i ymgrymu i’r ddelw a wneuthum, da: ac onid ymgrymwch, yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth; a pha DDUW yw efe a’ch gwared chwi o’m dwylo i?

16Sadrach, Mesach, ae Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn.

17Wele, y mae ein DUW ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli yn abl i’n gwared ni allan o’r ffwrn danllyd boeth, ac efe a’n gwared ni o’th law di, O frenin.

18Ac onid e, bydded hysbys i ti, frenin, na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymwn i’th ddelw aur a gyfodaist.

19Yna y llanwyd Nebuchodonosor o llidiowgrwydd, a gwedd, ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach, Mesach, ac Abednego; am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymo y ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o’i thwymo hi.

20Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfion nerthol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, i’w bwrw i’r ffwrn o dân poeth.

21Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny yn eu peisiau, eu llodrau, au cwcyllau, a’u dillad eraill, ac a’u bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth.

22Gan hynny, o achos bod gorchymyn y brenin yn gaeth, a’r ffwrn yn boeth ragorol, fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fyny Sadrach, Mesach, ac Abednego.

23A’r triwyr hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant yng nghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym.

24Yna y synnodd ar Nebuchodonosor, a cy cyfododd ar frys, atebodd hefyd a dywedodd wrth ei gynghoriaid, Onid triwyr a fwriasom ni i ganol y ffwrn yn rhwym? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwir, O frenin.

25Atebodd a dywedodd yntau, Wele fi yn gweled pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio yng nghanol y tân, ac nid oes niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab DUW.

26Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân.

27A’r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasglasant ynghyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff, ac ni ddeifiasai flewyn o’u pen, ni newidiasai eu peisiau chwaith, ac nid aethai sawr y tân arnynt.

28Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i’w DUW eu hun

29Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyri DUW Sadrach, Mesach ‘ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, a’u tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn.

30Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach, Mesach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.

← Llyfr Daniel 2Read In The App, Free →Llyfr Daniel 4 →

Study Llyfr Daniel 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112