Llyfr Daniel 4:14
Yn llefain yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, a’r adar o’i ganghennau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Jeremiah 51:6Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei him: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i’r ARGLWYDD; efe a dal y pwyth iddi hi. º
Ezekiel 31:12A dieithriaid, rhai ofnadwy y cen¬hedloedd, a'i torasant hi ym aith, ac a'i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a'i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o'i chysgod hi, ac a'i gadawsant hi.
Daniel 3:4A chyhoeddwr a lefodd yn groch, Wrthych chwi, bobloedd, genhedloedd, a ieithoedd, y dywedir.
Daniel 4:23A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef:
Daniel 5:20Eithr pan ymgododd ei galon ef, a chaledu o’i ysbryd ef mewn balchder, efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho:
Matthew 3:10Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.