Yr Efengyl yn ôl Mathew 3:10
Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 3
Cross References
2 Samuel 23:7Ond y gŵr a gyffyrddo a hwynt a ddiffynnir a haearn, ac a phaladr gwayw-ffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle. º
Isaiah 5:2Ac efe a’i cloddiodd hi, ac a’i digaregodd, ac a’i plannodd o’r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei’chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion.
Isaiah 61:3I osod i alarwyr, Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr ARGLWYDD, fel y gogonedder ef. º
Ezekiel 15:2Ha fab dyn, beth yw coed y winwyddi en fwy na phob coed arall, neu gainc yr hon sydd ymysg prennau y coed?
Malachi 4:1Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn, a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.