Llyfr Daniel 4:31
A’r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 15:9Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr yspail; caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a’u difetha hwynt.
1 Samuel 15:23Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin. º
Psalms 145:13Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd:
Daniel 4:34Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua’r nefoedd, a’m gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol, a’i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
Daniel 5:28PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid.
Daniel 12:7Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll.