Llyfr Daniel 12:7
Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn?
Cross References
Deuteronomy 26:19Ac i’th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant; ac i fod o honot yn bobl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw, megis y llefarodd efe.
Deuteronomy 32:40Canys codaf fy llaw i’r nefoedd, a dywedaf, Mi a fyddaf fyw byth.
Isaiah 62:12Galwant hwynt hefyd yn Bobl sanctaidd, yn Waredigion yr ARGLWYDD: tithau a elwir, Yr hon a geisiwyd, Dinas nis gwrthodwyd.
Daniel 4:31A’r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.
Daniel 7:21Edrychais, a’r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt;
Daniel 8:14Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.