Llyfr Daniel 5:16
Ac mi a glywais amdanatti, y rnedri ddeongl deongliadau, a datod clymau: yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 40:8A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseph a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, attolwg, i mi.
Daniel 2:6Ond os y breuddwyd a’i ddehongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o’m blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, a’i ddehongliad.
Daniel 5:29Yna y gorchmynnodd Belsas sar, a hwy a wisgasant Daniel â phorffor, ac â chadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddwyd amdano, y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth.