Llyfr Genesis 40:8
A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseph a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, attolwg, i mi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 41:16A Joseph a attebodd Pharaoh, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a ettyb lwyddiant i Pharaoh.
Job 33:15Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely;
Isaiah 8:19<il A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch a’r swynyddion, ac a’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid a’u Duw yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw? º
Daniel 2:28Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma:
Daniel 4:8Ond o’r diwedd daeth Daniel o’m blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn ôl enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) a’m breuddwyd a draethais o’i flaen ef, gan ddywedyd,
Amos 3:7Canys ni wna yr ARGLWYDD ddim, a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi.