Llyfr Daniel 5:23
Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y DUW y mae dy anadl di yn ei law, a’th holl ffyrdd yn eiddo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll;
24Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon.
Cross References
Genesis 2:7A’r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw.
Judges 16:23Yna arglwyddi’r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni. º
1 Samuel 17:26A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyi, gan ddy¬wedyd, Beth a wneir i’r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw’r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw? º
2 Kings 14:10Gan daro y trewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a’th falchiodd: ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ: canys i ba beth yr ymyrri i’th ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi? º
Job 31:4Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre?