Llyfr Daniel 6:8
Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel na newidier yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9Oherwydd hynny y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a’r gorchymyn.
Cross References
Esther 3:12Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn.
Esther 8:8Ysgrifennwch chwithau hefyd dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda, yn enw y brenin, ac inseliwch â modrwy y brenin: canys yr ysgrifen a ysgrifennwyd yn enw y brenin ac a seliwyd â modrwy y brenin, ni all neb ei datroi.
Daniel 6:12Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un DUW na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae peth yn wir, yn ô 1 cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir.
Matthew 24:35Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.