Llyfr Esther 3:12
Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ezra 8:36A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a thywysogion y tu hwnt i’r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw.
Esther 8:2A’r brenin a dynnodd ymaith fodrwy a gymerasai efe oddi wrth Haman, ac a’i rhoddodd i Mordecai. Ac Esther a osododd Mordecai ar dŷ Haman.
Esther 8:10Ac efe a ysgrifennodd yn enw y brenin Ahasferus, ac a’i seliodd â modrwy y brenin; ac a anfonodd lythyrau gyda’r rhedegwyr yn marchogaeth at feirch, dromedariaid, mulod, ac ebolion cesig:
Daniel 6:8Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel na newidier yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir.
Daniel 6:15Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwybydd, frenin, mai cyfraith y Mediaid a’r Persiaid yw, na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin.