Llyfr Daniel 8:25
A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Jeremiah 48:26Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd. º
Daniel 2:34Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw at ei thraed o haearn a phridd, ac a’u maluriodd hwynt.
Daniel 7:8Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o’r gwraidd dri o’r cyrn cyntaf o’i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.
Daniel 8:11Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastodol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef.
Daniel 11:12Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf.
Daniel 11:32A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu DUW, a fyddant gryfion, ac a ffynnant.