Llyfr Daniel 8:24
A’i nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, a’r bobl sanctaidd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Daniel 7:25Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddit yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser.
Daniel 8:12A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.
Daniel 11:31Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gysegr yr amddiffynfa, ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth, ac a osodant yno y ffieidd-dra anrheithiol.
Daniel 12:7Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll.
Revelation 16:6Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i'w yfed; canys y maent yn ei haeddu.
Revelation 17:12A'r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto, eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda'r bwystfil.