Llyfr Daniel 9:25
Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain: yr heol a adeiledir drachefn, a’r mur, sef mewn amseroedd blinion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ezra 4:24Yna y peidiodd gwaith tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem, ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.
Ezra 7:1Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
Ezra 7:11A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr ARGLWYDD, a’i ddeddfau ef i Israel.
Nehemiah 2:5A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi.
Nehemiah 3:1Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd, a’i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy a’i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel.
Nehemiah 4:8A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem, ac i’w rhwystro.