Llyfr Deuteronomium 1:33
Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmmwl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
32Etto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw,
34A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,
Read all of Llyfr Deuteronomium 1
Cross References
Exodus 13:21A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.
Exodus 14:24Ac ar y wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Aiphtiaid trwy y golofn dân a’r cwmmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Aiphtiaid.
Numbers 9:15¶ Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmmwl a gauodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore.
Numbers 10:11¶ A bu yn yr ail flwyddyn, sef yr ail mis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis, gyfodi o’r cwmmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth.
Numbers 14:14Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ym mysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;)