The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 1

1a’u hanufodd-dod hwy. Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o’r tu yma i’r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â’r môr coch, rhwng Paran, a Tophel, a Laban, a Haseroth, a Dizahab.

2( Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades-Barnea.)

3A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt;

4Wedi iddo ladd Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenhin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei;

5O’r tu yma i’r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro y gyfraith hon, gan ddywedyd,

6Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn:

7Dychwelwch, a chychwynwch rhagoch, ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i’w holl gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r dehau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Euphrates.

8Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchennogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hol hwynt.

9¶ A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi:

10Yr Arglwydd eich Duw a’ch llïosogodd chwi; ac wele chwi heddyw fel sêr y nefoedd o lïosowgrwydd.

11( Arglwydd Dduw eich tadau a’ch cynnyddo yn fil llïosoccach nag ydych, ac a’ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych!)

12Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a’ch baich, a’ch ymryson chwi?

13Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi.

14Ac attebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist.

15Cymmerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a’u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteniaid ar filoedd, ac yn gapteniaid ar gantoedd, ac yn gapteniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.

16A’r amser hwnnw y gorchymynais i’ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandêwch ddadleuon rhwng eich brodyr, a bernwch yn gyfiawn rhwng gwr a’i frawd, ac a’r dïeithr sydd gyd âg ef.

17Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandêwch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gwr; oblegid y farn sydd eiddo Duw: a’r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch attaf fi, a mi a’i gwrandawaf.

18Gorchymynais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.

19¶ A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy yr holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchymynasai yr Arglwydd ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades-Barnea.

20A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei roddi i ni.

21Wele, yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o’th flaen: dos i fynu a pherchennoga hi, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrhâ.

22¶ A chwi oll a ddaethoch attaf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o’n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fynu ar hyd-ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.

23A’r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac mi a gymmerais ddeuddengwr o honoch, un gwr o bob llwyth.

24A hwy a droisant, ac a aethant i fynu i’r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a’i chwiliasant ef.

25Ac a gymmerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a’ i dygasant i waered attom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.

26Er hynny ni fynnech fyned i fynu, ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd eich Duw.

27Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll, a dywedasoch, Am gasâu o’r Arglwydd nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aipht i’n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha.

28I ba le yr awn i fynu? ein brodyr a’n digalonnasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hŵy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.

29Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.

30Yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn myned o’ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ol yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aipht o flaen eich llygaid;

31Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gwr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma.

32Etto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw,

33Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmmwl.

34A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,

35Dïau na chaiff yr un o’r dynion hyn, o’r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i’ch tadau chwi;

36Oddi eithr Caleb mab Jephunneh: efe a’i gwel hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i’w feibion; o achos cyflawni o hono wneuthur ar ol yr Arglwydd.

37Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o’ch plegid chwi, gan ddywedyd, Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno.

38Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnhâ di ef; canys efe a’i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel.

39Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn yspail, a’ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddyw na da na drwg, hwynt-hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a’i perchennogant hi.

40Trowch chwithau, ac ewch i’r anialwch ar hyd ffordd y môr coch.

41Yna yr attebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Pechasom yn erbyn yr Arglwydd: nyni a awn i fynu ac a ymladdwn, yn ol yr hyn oll a orchymynodd yr Arglwydd ein Duw i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroisoch i fyned i fynu i’r mynydd.

42A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fynu, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion.

43Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fynu i’r mynydd.

44A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i’ch cyfarfod chwi; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnai gwenyn, ac a’ch difethasant chwi yn Seir, hyd Hormah.

45A dychwelasoch, ac wylasoch ger bron yr Arglwydd: ond ni wrandawodd yr Arglwydd ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi.

46Ac arhosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arhosasoch o’r blaen.

← Llyfr Numeri 36Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 2 →

Study Llyfr Deuteronomium 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334