Llyfr Deuteronomium 13:6
¶ Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 13
Cross References
Genesis 16:5Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi o honi, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi.
Exodus 32:27Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cynniweiriwch o borth i borth trwy y gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymmydog.
Deuteronomy 11:32Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddyw.
Deuteronomy 17:7Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith.
Deuteronomy 18:20Y prophwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchymynais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dïeithr; rhodder y prophwyd hwnnw i farwolaeth.
Deuteronomy 21:21Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant.