The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 13

1Nad arbeder y dinasoedd lle y bo gau-dduwiaeth. Pan godo yn dy fysg di brophwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod,

2A dyfod i ben o’r arwydd neu y rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ol duwiau dïeithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt;

3Na wrando ac eiriau y prophwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybo a ydych yn caru yr Arglwydd eich Duw â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid.

4Ar ol yr Arglwydd eich Duw y ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchymynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandêwch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch.

5A’r prophwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i’ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aipht, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio di allan o’r ffordd, yr hon y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg.

6¶ Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau;

7Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi, yn agos attat, neu ym mhell oddi wrthyt, o un cwrr i’r tir hyd gwrr arall y tir:

8Na chydsynia âg ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno:

9Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i’w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny.

10A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

11A holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus a hyn yn dy blith.

12¶ Pan glywech am un o’th ddinasoedd, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd,

13Aeth dynion, meibion y fall, allan o’th blith, a gyrrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuoch;

14Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda; ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd-dra hyn yn dy fysg;

15Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; difroda hi, a’r rhai oll a fyddant ynddi, a’i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf.

16A’i holl yspail hi a gesgli i ganol at heol hi, ac a losgi y ddinas a’i holl yspail hi yn gwbl, i’r Arglwydd dy Dduw, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy.

17Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r dïofryd-beth: fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau:

18Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl orchymynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw, gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.

← Llyfr Deuteronomium 12Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 14 →

Study Llyfr Deuteronomium 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334