Llyfr Deuteronomium 27:2
A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, osod o honot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 27
Cross References
Deuteronomy 9:1Moses yn eu hannog, nad ymddiriedent yn eu cyfiawnder eu hunain: gan ddatgan eu hamryw wrthryfel hwynt. Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddyw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchennogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;
Deuteronomy 26:1Y cyfammod rhwng Dow a’r bobl. A phan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a’i feddiannu, a phreswylio ynddo;
Joshua 1:11Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchymynwch i’r bobl, gan ddywedyd, Parottôwch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu.
Joshua 4:5A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ol rhifedi llwythau meibion Israel:
Joshua 8:32Ac efe a ysgrifenodd yno ar y meini gopi o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe y’ngŵydd meibion Israel.
Ezekiel 11:19A rhoddaf iddynt un galon, ac ysbryd newydd a roddaf ynoch; tynnaf hefyd y galon garreg ymaith o'u cnawd hwynt, a rhoddaf iddynt galon gig: