Llyfr Deuteronomium 27
1Cyhoeddi y melldithion ar fynydd Ebal. Yna y gorchymynodd Moses, gyd â henuriaid Israel, i’r bobl, gan ddywedyd, Cedwch yr holl orchymynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddyw.
2A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, osod o honot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch.
3Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned y’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt.
4A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddyw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch.
5Ac adeilada yno allor i’r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haiarn.
6A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw; ac offrymma arni boeth-offrymmau i’r Arglwydd dy Dduw.
7Offrymma hefyd hedd-aberthau, a bwytta yno, a llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw.
8Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.
9¶ A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r Arglwydd dy Dduw.
10Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchymynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw.
11¶ A gorchymynodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd,
12Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garizim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Judah, ac Issachar, a Joseph, a Benjamin.
13A’r rhai hyn a safant i felldithio at fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Zabulon, Dan, a Naphtali.
14¶ A’r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gwr o Israel â llef uchel,
15Melldigedig yw y gwr a wnel ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd-dra gan yr Arglwydd, gwaith dwylaw crefftwr, ac a’i gosodo mewn lle dirgel. A’r holl bobl a attebant, ac a ddywedant, Amen.
16Melldigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen.
17Melldigedig yw yr hwn a symmudo derfyn ei gymmydog. A dyweded yr holl bobl, Amen.
18Melldigedig yw yr hwn a baro i’r dall gyfeiliorni allan o’r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen.
19Melldigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dïeithr, yr amddifad, a’r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen.
20Melldigedig yw yr hwn a orweddo gyd â gwraig ei dad; o herwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen.
21Melldigedig yw yr hwn a orweddo gyd âg un anifail. A dyweded yr boll bobl, Amen.
22Melldigedig yw yr hwn a orweddo gyd â’i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen.
23Melldigedig yw yr hwn a orweddo gyd â’i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen.
24Melldigedig yw yr hwn a darawo ei gymmydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen.
25Melldigedig yw yr hwn a gymmero wobr, er dïeneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen.
26Melldigedig yw yr hwn ni pharhao y’ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.