Llyfr Deuteronomium 28:48
Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisieu pob dim; ac efe a ddyry iau haiarn ar dy wddf, hyd oni ddinystrio efe dydi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 28
Cross References
Nehemiah 9:35A hwy ni’th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt, nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o’u blaen hwynt; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.
Jeremiah 5:19A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr ARGLWYDD ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi.
Jeremiah 27:12Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a’i bobl, fel y byddoch byw. º
Jeremiah 44:17Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogl-darthu i fren hines y nefoedd, a thywalll iddi hi ddiodydd-offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhin. oedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem.: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg. º
Jeremiah 44:27Wele, mi a wyhaf arnynt hwy er niwed, ac nid er daioni: a holl wŷr Jwda y rhai sydd yng ngwlad yr Aifft, a ddifethir â’r cleddyf, ac â newyn, hyd oni ddarfyddont. º