The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 28

1Melldithion am anufudd-dod. Ac os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchymynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw; yna yr Arglwydd dy Dduw a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear.

2A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a’th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw.

3Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes.

4Bendigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a dïadellau dy ddefaid.

5Bendigedig fydd dy gawell a’th does di.

6Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan.

7Rhydd yr Arglwydd dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di: trwy un ffordd y deuant i’th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen.

8Yr Arglwydd a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oll y dodech dy law arno; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.

9Yr Arglwydd a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchymynion yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef.

10A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr Arglwydd, ac a ofnant rhagot.

11A’r Arglwydd a’th lwydda di mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy amfeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr Arglwydd i’th dadau ar ei roddi i ti.

12Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi gwlaw i’th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn.

13A’r Arglwydd a’th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchymynion yr Arglwydd dy Dduw, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, i’w cadw, ac i’w gwneuthur;

14Ac heb gilio o honot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddyw, i’r tu dehau neu i’r tu aswy, gan fyned ar ol duwiau dïeithr, i’w gwasanaethu hwynt.

15¶ A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchymynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; y daw arnat yr holl felldithion hyn, ac y’th oddiweddant.

16Melldigedig fyddi di yn y ddinas, a melldigedig yn y maes.

17Melldigedig fydd dy gawell a’th does di.

18Melldigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a dïadellau dy ddefaid.

19Melldigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a melldigedig yn dy fynediad allan.

20Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felldith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodech dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinystrio a’th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i.

21Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu.

22Yr Arglwydd a’th dery â darfodedigaeth, ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflanniad, ac â mallder; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha.

23Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a’r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haiarn.

24Yr Arglwydd a rydd yn lle gwlaw dy ddaear, lwch a lludw: o’r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni’th ddinystrier.

25Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr âi di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.

26A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’ u tarfo.

27Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd yr Aipht, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac âg ysfa; o’r rhai ni ellir dy iachâu.

28Yr Arglwydd a’th dery di âg ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon.

29Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a dïau y byddi orthrymmedig ac anrheithiedig byth, ac ni bydd a’ th waredo.

30Ti a ymgredi â gwraig, a gwr arall a gyd-orwedd â hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth.

31Dy ŷch a leddir yn dy olwg, ac ni fwyttêi o hono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref attat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni bydd i ti achubydd.

32Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill, a’th lygaid yn gweled, ac yn pallu am danynt ar hyd y dydd; ac ni bydd gallu ar dy law.

33Ffrwyth dy dir a’th holl lafur a fwytty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymmedig a drylliedig bob amser:

34A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

35Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd drygionus, yn y gliniau, ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iachâu, o wadn dy droed hyd dy goryn.

36Yr Arglwydd a’th ddwg di, a’th frenhin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dïeithr, pren a maen.

37A byddi yn syndod, yn ddïareb, ac yn watwargerdd, ym mhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di attynt.

38Had lawer a ddygi allan i’r maes, ac ychydig a gesgli: o herwydd y locust a’i hysa.

39Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a’u bwytty.

40Olew-wydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac âg olew ni’th irir: o herwydd dy olew-wydden a ddyhidla.

41Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: o herwydd hwy a ânt i gaethiwed.

42Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust.

43Y dïeithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgyni yn isel isel.

44Efe a fenthyccia i ti, a thi ni fenthycci iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon.

45A’r holl felldithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinystrier; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchymynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchymynodd efe i ti.

46A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth.

47Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy DDUW mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim:

48Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisieu pob dim; ac efe a ddyry iau haiarn ar dy wddf, hyd oni ddinystrio efe dydi.

49Yr Arglwydd a ddwg i’th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr, cenedl yr hon ni ddealli ei hiaith;

50Cenedl wyneb-galed, yr hon ni dderbyn wyneb yr henafgwr, ac ni bydd raslawn i’r llangc.

51A hi a fwytty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinystrier: yr hon ni âd i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na dïadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di.

52A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

53Ffrwyth dy fru, sef cig dy feibion a’th ferched, y rhai a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, a fwyttêi yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat.

54Y gwr tyner yn dy blith, a’r moethus iawn, a greulona ei lygad wrth ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe:

55Rhag rhoddi i un o honynt o gig ei feibion, y rhai a fwytty efe; o eisieu gadaw iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth.

56Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth wr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch,

57Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o’i chorph, a’i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a’u bwytty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth.

58Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, Yr Arglwydd dy Dduw;

59Yna y gwna yr Arglwydd dy bläau di yn rhyfedd, a phläau dy had; sef pläau mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus.

60Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aipht, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt.

61Ië, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr Arglwydd arnat, hyd oni’th ddinystrier.

62Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddych fel sêr y nefoedd o lïosowgrwydd; o herwydd na wrandewaist at iais yr Arglwydd dy Dduw.

63A bydd, megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhâu; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i’ch dinystrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu.

64A’r Arglwydd a’th wasgar di ym mhlith yr holl bobloedd, o’r naill gwrr i’r ddaear hyd y cwrr arall i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; sef pren a maen.

65Ac ym mhlith y cenhedloedd hyn ni orphwysi, ac ni bydd gorphwysdra i wadn dy droed: canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl.

66A’th einioes a fydd y’nghrôg gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o’th einioes.

67Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

68A’r Arglwydd a’th ddychwel di i’r Aipht, mown llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaeth-weision ac yn gaeth-forwynion, ac ni bydd a’ ch pryno.

← Llyfr Deuteronomium 27Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 29 →

Study Llyfr Deuteronomium 28

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334