Llyfr Deuteronomium 32:4
Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i’n Duw ni.
5Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.
Read all of Llyfr Deuteronomium 32
Cross References
Genesis 18:25Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd â’r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?
Deuteronomy 7:9Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw, sef y Duw ffyddlawn, yn cadw cyfammod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchymynion, hyd fil o genhedlaethau;
Deuteronomy 32:15¶ A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddïystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.
Deuteronomy 32:30Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r Arglwydd arnynt?
2 Samuel 22:2Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd i; º
2 Samuel 22:47Byw fyddo yr ARGLWYDD, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer Duw, craig fy iachawdwriaeth. º