The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 32

1Duw yn ei anfon ef i fynydd Nebo, i weled y wlad, ac i farw. Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.

2Fy athrawiaeth a ddefnyna fel gwlaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlith-wlaw ar îr-wellt, ac fel cawodydd ar laswellt.

3Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i’n Duw ni.

4Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe.

5Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.

6Ai hyn a delwch i’r Arglwydd, bobl ynfyd ac anghall? onid efe yw dy dad a’th brynwr? onid efe a’th wnaeth, ac a’th sicrhaodd?

7¶ Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i’th dad, ac efe a fynega i ti; i’th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt.

8Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neillduodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ol rhifedi meibion Israel.

9Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef.

10Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffaethwch gwag erchyll: arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad.

11Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymmer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd;

12Felly yr Arglwydd yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dïeithr gyd âg ef.

13Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwytta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestr;

14Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phur-waed grawnwin a yfaist.

15¶ A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddïystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.

16A dïeithr dduwiau y gyrrasant eiddigedd arno; â ffieidd-dra y digiasant ef.

17Aberthasant i gythreuliaid, nid i Dduw; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.

18Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r Duw a’th luniodd a ollyngaist ti dros gôf.

19Yna y gwelodd yr Arglwydd, ac a’u ffieiddiodd hwynt; o herwydd ei ddigio gan ei feibion, a’i ferched.

20Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth diofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.

21Hwy a yrrasant eiddigedd arnaf â’r peth nid oedd Dduw; digiasant fi â’u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â’r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.

22Canys tân a gynneuwyd yn fy nig, ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir a’i gynnyrch, ac a wna i sylfeini y mynyddoedd ffaglu.

23Casglaf ddrygau arnynt; treuliaf fy saethau arnynt.

24Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwytta gan wres poeth, a chwerw-ddinystr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirph y llwch.

25Y cleddyf oddi allan, a dychryn oddi fewn, a ddifetha y gwr ieuangc a’r wyryf hefyd, y plentyn sugno ynghyd â’r gŵr briglwyd.

26Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gonglau, paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion;

27Oni bai i mi ofni dig y gelyn, rhag i’w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddïeithr, a rhag dywedyd o honynt, Ein llaw uchel ni, ac nid yr Arglwydd, a wnaeth hyn oll.

28Canys cenedl heb gynghor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt.

29O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd!

30Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r Arglwydd arnynt?

31Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr.

32Canys o winwydden Sodom, ac o feusydd Gomorrah, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt.

33Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a chreulawn wenwyn aspiaid.

34Onid yw hyn y’nghûdd gyd â myfi, wedi ei selio ym mysg fy nhrysorau?

35I mi y perthyn dïal, a thalu y pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a barottôwyd iddynt.

36Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarhâ am ei weision; pan welo ymadaw o’ u nerth, ac nad oes na gwarchaëedig, na gweddilledig.

37Ac efe a ddywed, Pa le y mae eu duwiau hwynt, a’r graig yr ymddiriedasant ynddi,

38Y rhai a fwyttasant frasder eu haberthau, ac a yfasant win eu dïod-offrwm? codant a chynnorthwyant chwi, a byddant loches i chwi.

39Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes Duw ond myfi; myfi sydd yn lladd, ac yn bywhâu; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o’m llaw.

40Canys codaf fy llaw i’r nefoedd, a dywedaf, Mi a fyddaf fyw byth.

41Os hogaf fy nghleddyf disglaer, ac ymaflyd o’m llaw mewn barn; dychwelaf ddïal ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i’m caseion.

42Meddwaf fy saethau â gwaed, (a’m cleddyf a fwytty gig,) â gwaed y lladdedig a’r caeth, o ddechreu dïal ar y gelyn.

43Y cenhedloedd, llawenhêwch gyd â’i bobl ef: canys efe a ddïal waed ei weision, ac a ddychwel ddïal ar ei elynion, ac a drugarhâ wrth ei dir a’i bobl ei hun.

44¶ A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu y bobl, efe a Josua mab Nun.

45A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel:

46A dywedodd wrthynt, Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu tystiolaethu wrthych heddyw; y rhai a orchymynwch i’ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon.

47Canys nid gair ofer yw hwn i chwi: o herwydd eich einioes chwi yw efe; a thrwy y gair hwn yr estynwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.

48¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses y’nghorph y dydd hwnnw, gan ddywedyd,

49Esgyn i’r mynydd Abarim hwn, sef mynydd Nebo, yr hwn sydd yn nhir Moab, ar gyfer Jericho; ac edrych ar wlad Canaan, yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth.

50A bydd farw yn y mynydd yr esgyni iddo, a chasgler di at dy bobl; megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor, ac y casglwyd ef at ei bobl:

51O herwydd gwthryfelasoch i’m herbyn ym mysg meibion Israel, wrth ddyfroedd cynnen Cades, yn anialwch Sin; oblegid ni’m sancteiddiasoch ym mhlith meibion Israel.

52Canys y wlad a gei di ei gweled ar dy gyfer; ond yno nid âi, i’r tir y ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel.

← Llyfr Deuteronomium 31Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 33 →

Study Llyfr Deuteronomium 32

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334