Llyfr Deuteronomium 33:19
Galwant bobloedd i’r mynydd; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedig drysorau y tywod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 33
Cross References
Exodus 15:17Ti a’u dygi hwynt i mewn, ac a’u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anneddle i ti, y cyssegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylaw.
Psalms 4:5Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd.
Psalms 50:13Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela.
Psalms 51:19Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell.
Isaiah 2:3A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i dŷ Duw Jacob, ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
Isaiah 60:16Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob. ‘ º