The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 33

1Godidowgrwydd Israel. A dyma y fendith â’r hon y bendithiodd Moses gwr Dduw feibion Israel, cyn ei farwolaeth.

2Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt; ymlewyrchodd o fynydd Paran, ac efe a ddaeth gyd â myrddiwn o saint, a thanllyd gyfraith o’i ddeheulaw iddynt.

3Caru y mae efe y bobl: ei holl saint ydynt yn dy law: a hwy a ymlynasant wrth dy draed; pob un a dderbyn o’th eiriau.

4Moses a orchymynodd gyfraith i ni, yn etifeddiaeth i gynnulleidfa Jacob.

5Ac efe oedd frenhin yn Israel, pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel.

6¶ Bydded fyw Reuben, ac na fydded farw, ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi.

7¶ Bydded hyn hefyd i Judah. Ac efe a ddywedodd, Clyw, O Arglwydd, lais Judah, ac at ei bobl dwg ef: digon fyddo iddo ei ddwylaw ei hun, a bydd gymmorth rhag ei elynion.

8¶ Ac am Lefi y dywedodd, Bydded dy Thummim a’th Urim i’th wr sanctaidd, yr hwn a brofaist ym Massah, ac a gynhennaist âg ef wrth ddyfroedd Meribah;

9Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam, Ni welais ef; a’i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynaliasant dy gyfammod.

10Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a’th gyfraith i Israel: gosodant arogl-darth ger dy fron, a llosg aberth ar dy allor.

11Bendithia, O Arglwydd, ei olud ef, a bydd foddlawn i waith ei ddwylaw ef: archolla lwynau y rhai a godant i’w erbyn, a’i gaseion, fel na chodont.

12¶ Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn dïogelwch gyd âg ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.

13¶ Ac am Joseph y dywedodd efe, Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, â hyfrydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfnder yn gorwedd isod;

14Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac â hyfrydwch addfed-ffrwyth y lleuadau,

15Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac â hyfrydwch bryniau tragywyddoldeb,

16Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â’i chyflawnder, ac âg ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseph, ac ar goryn yr hwn a neillduwyd oddi wrth ei frodyr.

17Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf-anedig ei ŷch, a’i gyrn ef sydd gyrn unicorn: â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear: a dyma fyrddiwn Ephraim, ïe, dyma filoedd Manasseh.

18¶ Ac am Zabulon y dywedodd efe, Ymlawenycha, Zabulon, yn dy fynediad allan; a thi, Issachar, yn dy bebyll.

19Galwant bobloedd i’r mynydd; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedig drysorau y tywod.

20¶ Ac am Gad y dywedodd efe, Bendigedig yw ehangydd Gad: megis llew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a’r pen.

21Edrychodd am dano ei hun yn y dechreuad: canys yno, yn rhan y cyfreithwr, y gosodwyd ef: efe a ddaeth gyd â phennaethiaid y bobl; gwnaefh efe gyfiawnder yr Arglwydd, a’i farnedigaethau gyd âg Israel.

22¶ Am Dan hefyd y dywedodd, Dan yn genaw llew a neidia o Basan.

23¶ Ac am Naphtali y dywedodd, O Naphtali, llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr Arglwydd: meddianna di y gorllewin a’r dehau.

24¶ Ac am Aser y dywedodd, Bendithier Aser â phlant: bydded gymmeradwy gan ei frodyr: ac efe a wlych ei droed mewn olew.

25Haiarn a phres fydd dan dy esgid di; a megis dy ddyddiau, y bydd dy nerth.

26¶ Nid oes megis Duw Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y nef oedd yn gymmorth i ti, a’r wybrennau yn ei fawredd.

27Dy noddfa yw Duw tragywyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragywyddol: efe a wthia dy elyn o’th flaen, ac a ddywed, Difetha ef.

28Israel hefyd a drig ei hun yn ddïogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith.

29Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megis ti, O bobl gadwedig gan yr Arglwydd, tarian dy gynnorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd! a’th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel-leoedd hwynt.

← Llyfr Deuteronomium 32Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 34 →

Study Llyfr Deuteronomium 33

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334