Llyfr Deuteronomium 34:4
A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dyma y tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled â’th lygaid, ond nid âi di drosodd yno.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Y dehau hefyd, a gwastadedd dyffryn Jericho, a dinas y palmwydd, hyd Soar.
5¶ A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ol gair yr Arglwydd.
Read all of Llyfr Deuteronomium 34
Cross References
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 15:18Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
Genesis 26:3Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf; o herwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.
Numbers 20:12¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio y’ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt.
Deuteronomy 1:37Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o’ch plegid chwi, gan ddywedyd, Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno.
Deuteronomy 32:52Canys y wlad a gei di ei gweled ar dy gyfer; ond yno nid âi, i’r tir y ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel.