Llyfr Deuteronomium 34
1Clod Moses. A Moses a esgynodd o rosydd Moab, i fynydd Nebo, i ben Pisgah, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlad Gilead, hyd Dan,
2A holl Naphtali, a thir Ephraim, a Manasseh, a holl dir Judah, hyd y môr eithaf,
3Y dehau hefyd, a gwastadedd dyffryn Jericho, a dinas y palmwydd, hyd Soar.
4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dyma y tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled â’th lygaid, ond nid âi di drosodd yno.
5¶ A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ol gair yr Arglwydd.
6Ac efe a’i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab, gyferbyn â Beth-peor: ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.
7¶ A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw: ni thywyllasai ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd-dra ef.
8¶ A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab ddeng niwrnod ar hugain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses.
9¶ A Josua mab Nun oedd gyflawn o yspryd doethineb; o herwydd Moses a roddasai ei ddwylaw arno: a meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
10¶ Ac ni chododd prophwyd etto yn Israel megis Moses, yr hwn a adnabu yr Arglwydd wyneb yn wyneb;
11Ym mhob rhyw arwyddion a rhyfeddodau, y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef i’w gwneuthur yn nhir yr Aipht, ar Pharaoh, ac ar ei holl weision, ac ar ei holl dir ef,
12Ac yn yr holl law gadarn, ac yn yr holl ofn mawr, y rhai a wnaeth Moses y’ngolwg holl Israel.