Llyfr Deuteronomium 4:10
Sef y dydd y sefaist ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 4
Cross References
Exodus 19:9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf attat mewn cwmmwl tew, fel y clywo y bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.
Exodus 19:16A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmmwl tew ar y mynydd, a llais yr udgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.
Exodus 20:20A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; o herwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.
Deuteronomy 5:29O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchymynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragywyddol!
Deuteronomy 6:7A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu.
Deuteronomy 14:23A bwytta ger bron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a’th olew, a chyntaf-anedig dy wartheg, a’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser.