The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 4

1Moses yn appwyntio y tair dinas noddfa, o’r tu hwnnw i’r Iorddonen. Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’ w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi.

2Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihêwch ddim o hono ef, gan gadw gorchymynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.

3Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd am Baal-peor; oblegid pob gwr a’r a aeth ar ol Baal-peor, yr Arglwydd dy Dduw a’i difethodd ef o’th blith di.

4Ond chwi y rhai oeddych yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, byw ydych heddyw oll.

5Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchymynodd yr Arglwydd fy Nuw i mi; i wneuthur o honoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu.

6Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a’ch deall chwi, y’ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddïau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon.

7Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesâu atti, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a’r y galwom arno?

8A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddyw ger eich bron chwi?

9Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio o honot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion:

10Sef y dydd y sefaist ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion.

11A nesasoch, a safasoch dan y mynydd; a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmmwl, a thywyllwch dudew.

12A’r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddych yn gweled llun dim, ond llais.

13Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfammod a orchymynodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y Dengair; ac a’u hysgrifenodd hwynt ar ddwy lech faen.

14¶ A’r Arglwydd a orchymynodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau, a barnedigaethau, i wneuthur o honoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu.

15Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb, o ganol y tân,)

16Rhag ymlygru o honoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwrryw neu fenyw,

17Llun un anifail a’r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr,

18Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a’r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear;

19Hefyd rhag dyrchafu o honot dy lygaid tu a’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymmu iddynt, a gwasanaethu o honot hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.

20Ond yr Arglwydd a’ch cymmerodd chwi, ac a’ch dug chwi allan o’r pair haiarn, o’r Aipht, i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn.

21A’r Arglwydd a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth.

22Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno.

23Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfammod yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a ammododd efe â chwi, a gwneuthur o honoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

24Oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol, a Duw eiddigus.

25¶ Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir-drigo o honoch yn y wlad, ac ymlygru o honoch, a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni y’ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef;

26Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.

27A’r Arglwydd a’ch gwasgara chwi ym mhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ym mysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi attynt:

28Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylaw dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwyttânt, ac ni aroglant.

29Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid.

30Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diweddaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef:

31(O herwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofia gyfammod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt.

32Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, ac o’r naill gwrr i’r nefoedd hyd y cwrr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef:

33A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw?

34A brofodd un Duw ddyfod i gymmeryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aipht y’ngŵydd dy lygaid?

35Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, nad oes neb arall ond efe.

36O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef.

37Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hol; ac a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aipht:

38I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di, i’th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddyw.

39Gwybydd gan hynny heddyw, ac ystyria yn dy galon, mai yr Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall.

40Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ol di, fel yr estynech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.

41¶ Yna Moses a neillduodd dair dinas o’r tu yma i’r Iorddonen, tu a chodiad haul;

42I gael o’r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymmydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o’r blaen; fel y gallai ffoi i un o’r dinasoedd hynny, a byw:

43Sef Beser yn yr anialwch, yng ngwastad-tir y Reubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan, y Manassiaid.

44¶ A dyma y gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel;

45Dyma y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o’r Aipht:

46Tu yma i’r Iorddonen, yn y dyffryn, ar gyfer Beth-peor, yng ngwlad Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a darawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o’r Aipht:

47Ac a berchennogasant ei wlad ef, a gwlad Og brenhin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd tu yma i’r Iorddonen, tu a chodiad haul;

48O Aroer, yr hon oedd ar làn afon Arnon, hyd fynydd Sïon, hwn yw Hermon;

49A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tu a’r dwyrain, a hyd at fôr y rhos, dan Asdoth-Pisgah.

← Llyfr Deuteronomium 3Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 5 →

Study Llyfr Deuteronomium 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334