Llyfr Deuteronomium 4:46
Tu yma i’r Iorddonen, yn y dyffryn, ar gyfer Beth-peor, yng ngwlad Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a darawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o’r Aipht:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 4
Cross References
Numbers 21:23Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.
Numbers 21:35Am hynny y tarawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchennogasant ei dir ef.
Deuteronomy 1:4Wedi iddo ladd Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenhin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei;
Deuteronomy 2:30Ond ni fynnai Sehon brenhin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr Arglwydd dy Dduw a galedasai ei yspryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddyw y gwelir.
Deuteronomy 3:29Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.
Deuteronomy 34:6Ac efe a’i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab, gyferbyn â Beth-peor: ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.