Llyfr y Pregethwr 2:24
Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i’w enaid gael daioni o’i lafur. Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd hyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25Canys pwy a ddichon fwyta, a phwy a’i mwynhai, o’m blaen i?
Read all of Llyfr y Pregethwr 2
Cross References
Deuteronomy 12:18Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwyttêi hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynech dy law arno.
Nehemiah 8:10Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr ARGLWYDD yw eich nerth chwi.
Ecclesiastes 3:12Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.
Ecclesiastes 3:22Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu, yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?
Ecclesiastes 5:18Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef.
Ecclesiastes 8:15Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o’i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo dan yr haul.