Llyfr y Pregethwr 3:22
Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu, yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr y Pregethwr 3
Cross References
Deuteronomy 12:18Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwyttêi hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynech dy law arno.
Deuteronomy 28:47Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy DDUW mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim:
Ecclesiastes 2:10A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur.
Ecclesiastes 3:11Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd.
Ecclesiastes 5:18Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef.
Ecclesiastes 8:7Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd?