The Bible Software
Llyfr y Pregethwr · Beibl (1620)

Llyfr y Pregethwr 3

1Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd:

2Amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd;

3Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu;

4Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio;

5Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio,

6Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith;

7Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd;

8Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch.

9Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yrjiyn y mae yn llafurio?

10Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo.

11Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd.

12Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.

13A bod i bob dyn fwyfa ac yfed, a mwynhau daioni o’i holl lafur; rhodd Duw yw hynny.

14Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef.

15Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.

16Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd.

17Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a’r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno.

18Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i DDUW eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt.

19Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i’r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl.

20Y mae y cwbl yn myned i’r un lle: pob un sydd o’r pridd, a phob un a dry i’r pridd eilwaith.

21Pwy a edwyn ysbryd dyn, yr hwn sydd yn esgyn i fyny, a chwythad anifail,. yr hwn sydd yn disgyn i waered i’r ddaear?

22Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu, yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?

← Llyfr y Pregethwr 2Read In The App, Free →Llyfr y Pregethwr 4 →

Study Llyfr y Pregethwr 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112