Llyfr y Pregethwr 4:1
Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i’w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i’w cysuro.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na’r byw y rhai sydd yn fyw eto.:
Read all of Llyfr y Pregethwr 4
Cross References
Exodus 1:16Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebrëesau, a gweled o honoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.
Exodus 2:23¶ Ac yn ol dyddiau lawer, bu farw brenhin yr Aipht; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a’u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw, oblegid y caethiwed.
Exodus 5:18Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; etto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini.
Deuteronomy 28:48Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisieu pob dim; ac efe a ddyry iau haiarn ar dy wddf, hyd oni ddinystrio efe dydi.
Judges 10:7A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon. º
Job 6:29Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.