Llyfr y Pregethwr 6:3
Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir a daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch.
Read all of Llyfr y Pregethwr 6
Cross References
Genesis 47:9A Jacob a ddywedodd wrth Pharaoh, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chàn mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyrhaeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.
2 Kings 9:35A hwy a aethant i’w chladdu hi; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed, a chledrau’r dwylo. º
1 Chronicles 28:5Ac o’m holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr ARGLWYDD i mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr ARGLWYDD, ar Israel. º
Esther 5:11A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amldra ei feibion, a’r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt, ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin.
Esther 9:14A’r brenin a ddywedodd am wneuthur felly, a’r gorchymyn a roddwyd yn Susan: a hwy a grogasant ddeng mab Haman.
Job 3:16Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.