The Bible Software
Llyfr y Pregethwr · Beibl (1620)

Llyfr y Pregethwr 6

1Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion:

2Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i’w enaid a’r a ddymunai; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a’i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.

3Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir a daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef.

4Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a’i enw a guddir â thywyllwch.

5Yntau ni welodd mo’r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i’r llall.

6Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynydd¬oedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i’r un lle yr â pawb?

7Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef.

8Canys pa ragoriaeth sydd i’r doeth mwy nag i’r annoeth? beth sydd i’r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?

9Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wag¬edd a gorthrymder ysbryd.

10Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â’r neb sydd drech nag ef.

11Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well?

12Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?

← Llyfr y Pregethwr 5Read In The App, Free →Llyfr y Pregethwr 7 →

Study Llyfr y Pregethwr 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112