Llyfr Esther 1:2
Yn y dyddiau hynny, pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth, yr hon oedd yn Susan y brenhinllys,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 1:46Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth.
Esther 2:3A gosoded y brenin swyddogion trwy holl daleithiau ei frenhiniaeth, a chasglant hwythau bob llances deg yr olwg, o wyry, i Susan y brenhinllys, i dŷ y gwragedd, dan law Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd, a rhodder iddynt bethau i’w glanhau:
Esther 3:15Y rhedegwyr a aethant, wedi eu cymell trwy air y brenin, a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys. Y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed, a dinasyddion Susan oedd yn athrist.
Esther 9:12A dywedodd y brenin wrth Esther y frenhines, Yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant yn Susan y brenhinllys, bum cant o wŷr, a deng mab Haman; yn y rhan arall o daleithiau y brenin beth a wnaethant hwy? beth gan hynny yw dy ddymuniad? ac fe a roddir i ti; a pheth yw dy ddeisyfiad ymhellach? ac fe a’i gwneir.
Daniel 8:2Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhinllys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i,) ie, gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai.