Llyfr Esther 1:3
Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a wnaeth wledd i’w holl dywysogion a’i weision, cadernid Persia, a Media, y rhaglawiaid, a thywysogion y taleithiau, oedd ger ei fron ef:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 3:15A Solomon a ddeffrodd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl weision.
Esther 1:14A nesaf ato ef oedd Carsena, Sethar, i Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memuchan, saith dywysog Persia a Media, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth;)
Esther 3:7Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i’r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.
Jeremiah 51:11Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr ARGLWYDD a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i’w dinistrio hi; canys dial yr ARG&WYDD yw hyn, dial ei deml ef.,:.,_ º
Daniel 5:1Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil.
Daniel 6:1Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas;