Llyfr Esther 1:22
Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin, ie, i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
21A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a’r tywysogion; a’r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan:
Cross References
Esther 3:12Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn.
Daniel 3:29Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyri DUW Sadrach, Mesach ‘ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, a’u tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn.
Luke 16:8A’r arglwydd a ganmolodd y goruch¬wyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni.
1 Corinthians 14:19Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr.
1 Timothy 2:12Ond nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar y gŵr, eithr bod mewn distawrwydd.