Llyfr Esther 3:13
A’r llythyrau a anfonwyd gyda’r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha yr holl Iddewon, yn ieuainc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Samuel 22:19Efe a drawodd hefyd Nob, dinas yr oft’eiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ych, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf.:: º
Esther 7:4Canys gwerthwyd ni, myfi a’m pobl, i’n dinistrio, i’n lladd, ac i’n difetha: ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenhin.
Esther 8:10Ac efe a ysgrifennodd yn enw y brenin Ahasferus, ac a’i seliodd â modrwy y brenin; ac a anfonodd lythyrau gyda’r rhedegwyr yn marchogaeth at feirch, dromedariaid, mulod, ac ebolion cesig:
Esther 9:1Felly yn y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, pan nesaodd gair y brenin a’i orchymyn i’w cwblhau; yn y dydd y gobeithiasai gelynion yr Iddewon y caent fuddugoliaethu arnynt, (ond yn y gwrthwyneb i hynny y bu, canys yr Iddewon a arglwyddiaethasant ar eu caseion;)
Job 9:25A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni.
Jeremiah 51:31Rhedegwr a red i gyfarfod ârhedegwr, a chennad i gyfarfod âchennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o’i chwr, º