Llyfr Esther 3:4
Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn, eto ni wrandawai efe arnynt hwy; am hynny y mynegasant i Haman, i edrych a safai geiriau Mordecai: canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 39:10A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseph beunydd, ac yntau heb wrandaw arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyd â hi.
Daniel 3:8O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gŵr o Caldea, ac a gyhuddasant yr Iddewon.
Daniel 3:16Sadrach, Mesach, ae Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn.
Daniel 6:13Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o’r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith. yn. y dydd y mae yn gweddïo ei weddi.
Jonah 1:9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.