Llyfr Jona 1:9
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 14:13A daeth un a ddïangasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo y’ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair âg Abram.
Genesis 39:14Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth attaf fi i orwedd gyd â myfi, minnau a waeddais â llef uchel;
2 Kings 17:28Felly un o’r offeiriaid a ddygasent ‘hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr ARGLWYDD. º
Ezra 1:2Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda.
Ezra 7:12Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf DUW y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser.
Nehemiah 2:4A’r brenin a ddywedodd wrthyf. Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno? Yna y gweddïais ar DDUW y nefoedd.