Llyfr Esther 6:13
A Haman a adroddodd i Seres ei wraig, ac i’w holl garedigion, yr hyn oll a ddigwyddasai iddo. Yna ei ddoethion, a Seres ei wraig, a ddywedasant wrtho, Os o had yr Iddewon y mae Mordecai, yr hwn y dechreuaist syrthio o’i flaen, ni orchfygi mohono, ond gan syrthio y syrthi o’i flaen ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12A dychwelodd Mordecai i borth y brenin. A Haman a frysiodd i’w dŷ yn alarus, wedi gorchuddio ei ben.
Cross References
Genesis 41:8A’r bore y bu i’w yspryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht a’i holl ddoethion hi: a Pharaoh a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharaoh.
Deuteronomy 32:10Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffaethwch gwag erchyll: arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad.
Esther 5:10Er hynny Haman a ymataliodd; a phan ddaeth i’w dŷ ei hun, efe a anfonodd, ac a alwodd am ei garedigion, a Seres ei wraig.
Job 16:2Clywais lawer o’r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll.
Proverbs 28:18Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith.
Daniel 5:26Dyma ddehongliad y peth: MENE; DUW a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd.