Llyfr Genesis 41:8
A’r bore y bu i’w yspryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht a’i holl ddoethion hi: a Pharaoh a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharaoh.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9¶ Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharaoh, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddyw.
Cross References
Genesis 40:8A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseph a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, attolwg, i mi.
Exodus 7:11A Pharaoh hefyd a alwodd am y doethion, a’r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aipht, a wnaethant felly trwy eu swynion.
Exodus 8:7A’r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fynu lyffaint ar wlad yr Aipht.
Exodus 9:11A’r swynwyr ni allent sefyll ger bron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Aiphtiaid.
Leviticus 20:6¶ A’r dyn a dro ar ol dewiniaid, a brudwyr, i butteinio ar eu hol hwynt, gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.
1 Samuel 6:2A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr AR¬GLWYDD? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref.