Llyfr Esther 8:5
Ac a ddywedodd, O bydd bodlon gan y brenin, ac o chefais ffafr o’i flaen ef, ac od ydyw y peth yn iawn gerbron y brenin, a minnau yn gymeradwy yn ei olwg ef; ysgrifenner am alw yn ôl lythyrau bwriad Haman mab Hammedatha yr Agagiad, y rhai a ysgrifennodd efe i ddifetha’r Iddewon sydd trwy holl daleithiau y brenin.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 33:13Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, attolwg, fel y’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwel hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon.
1 Samuel 20:29Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i’n tyiwyth ni y mae uberth yn y ddinas, a’m brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin. º
Esther 2:17A’r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gafodd ffafr a charedigrwydd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl wyryfon; ac efe a osododd y deyrngoron ar ei phen hi, ac a’i gwnaeth yn frenhines yn lle Fasti.
Esther 3:13A’r llythyrau a anfonwyd gyda’r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha yr holl Iddewon, yn ieuainc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt.
Esther 7:3A’r frenhines Esther a atebodd, ac a ddywedodd, O chefais ffafr yn dy olwg di, O frenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin, rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad, a’m pobl ar fy neisyfiad.