Llyfr Esther 8:9
Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mis, hwnnw yw y mis Sifan, ar y trydydd dydd ar hugain ohono, ac ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, ac at y rhaglawiaid, y penaduriaid hefyd, a thywysogion y taleithiau, y rhai oedd o India hyd Ethiopia, sef cant a saith ar hugain o daleithiau, i bob talaith wrth ei hysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith: at yr Iddewon hefyd yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tafodiaith.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 15:10Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem, yn y trydydd mis, yn y bymthegfed. flwyddyn o deyrnasiad Asa.
Esther 1:22Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin, ie, i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl.
Esther 10:1A’r brenin Ahasferus a osododd dreth ar y wlad, ac ar ynysoedd y môr.
Daniel 6:1Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas;