Llyfr Exodus 1:17
Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywedasai brenhin yr Aipht wrthynt, eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 42:18Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseph wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi.
1 Samuel 22:17A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr AR¬GLWYDD; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweis ion y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr AR¬GLWYDD. º
Nehemiah 5:15Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasai o’m blaen i, fuasent drymion ar y bobli, ac a gymerasent ganddynt fara a gwin, heblaw deugain sici o arian, eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly, rhag ofn DUW.
Proverbs 16:6Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn Yr ARGLWYDD y mae ymado oddi wrth ddrwg.
Ecclesiastes 8:12Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith, ac estyn ei ddyddiau ef; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i’r rhai a ofnant DDUW, y rhai a arswydant ger ei fron ef.