Llyfr Exodus 1
1Pharaoh yn gorchymyn bwrw y plant gwrryw i’r afon. Dyma yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i'r Aipht: gyd â Jacob y ddaethant, bob un a'i deulu.
2Reuben, Simeon, Lefi, a Judah,
3Issachar, Zabulon, a Benjamin,
4Dan, a Naphtali, Gad, ac Aser.
5A’r holl eneidiau a ddaethant allan o gorph Jacob oedd ddeng henaid a thri ugain: a Joseph oedd yn yr Aipht.
6A Joseph a fu farw, a’i holl frodyr, a’r holl genhedlaeth honno.
7¶ A phlant Israel a hiliasant ac a gynnyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth, a’r wlad a lanwyd ohonynt.
8Yna y cyfododd brenhin newydd yn yr Aipht, yr hwn nid adnabuasai mo Joseph.
9Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele, bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni.
10Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt, rhag amlhâu o honynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgyssylltu o honynt â’n caseion, a rhyfela i’n herbyn, a myned i fynu o’r wlad.
11Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid-gwaith, i’w gorthrymmu â’u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharaoh ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.
12Ond fel y gorthrymment hwynt, felly yr amlhâent, ac y cynnyddent: a drwg oedd ganddynt o herwydd plant Israel.
13A’r Aiphtiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed.
14A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy y gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed.
15A brenhin yr Aipht a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebrëesau; o ba rai enw un oedd Siprah, ac enw yr ail Puah:
16Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebrëesau, a gweled o honoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.
17Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywedasai brenhin yr Aipht wrthynt, eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.
18Am hynny brenhin yr Aipht a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?
19A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharaoh, Am nad yw yr Hebrëesau fel yr Aiphtiesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig attynt.
20Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.
21Ac o herwydd i’r bydwragedd ofni Duw, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau.
22A Pharaoh a orchymynodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.